|
North Wales Police are urging members of the public to remain vigilant following a spate of scam phone calls reported in recent weeks. Around 12 incidents have been recorded over the past three weeks involving a fraudster impersonating officers from the Metropolitan Police. The scam involves callers claiming there has been suspicious activity on the victim’s bank card and that a courier will be sent to collect it. Fortunately, none of the targeted individuals have handed over their cards and instead reported the attempts to police.
Detective Inspector Iolo Edwards from the North Wales Police Economic Crime Unit said: “We want to reassure the public that the police will never ask for your bank details over the phone, nor will we ever send a courier to collect your bank cards. If you receive a call like this, hang up immediately and contact 101 to verify its legitimacy. We would remind everyone to remain cautious around this type of fraudulent activity and to report any suspicious calls.”
Advice and guidance on avoiding fraud-related crime can be found on our website: Advice about fraud | North Wales Police #NWPCyberSafe
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar ôl cyfres o alwadau ffôn twyllodrus gael eu riportio yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae tua 12 digwyddiad wedi’u cofnodi yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, yn ymwneud â thwyllwr yn smalio bod yn swyddogion o’r Heddlu Metropolitan. Mae’r sgam yn ymwneud â galwyr yn honni bod gweithgaredd amheus ar gerdyn banc y dioddefwr, ac mi fydd cludwr yn cael ei anfon er mwyn ei gasglu.Yn ffodus, ni wnaeth yr unigolion o dan sylw roi eu cardiau i’r cludwr, ac mi wnaethon nhw riportio’r digwyddiadau i’r heddlu.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Iolo Edwards, o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: “Mi hoffem ni dawelu meddwl y cyhoedd na fyddai’r heddlu byth yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn, na chwaith yn anfon cludwr i nôl eich cardiau banc. “Os ‘da chi’n cael galwad fel hyn, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith, a cysylltwch efo 101 er mwyn gwirio’i gyfreithlondeb. “Mi hoffem ni atgoffa pawb i fod yn wyliadwrus ynglŷn â’r math hwn o weithgaredd twyllodrus, ac i riportio unrhyw alwadau amheus.”
Mae cyngor a chanllawiau ynglŷn ag osgoi troseddau sy’n ymwneud â thwyll ar gael ar ein gwefan ni: Cyngor ynglŷn â thwyll | Heddlu Gogledd Cymru
#SeiberDdiogelHGC 
|